We’ve updated our Terms of Use to reflect our new entity name and address. You can review the changes here.
We’ve updated our Terms of Use. You can review the changes here.

dim ond gwichiaid moch

by Ffos Goch

/
  • Streaming + Download

    Includes unlimited streaming via the free Bandcamp app, plus high-quality download in MP3, FLAC and more.
    Purchasable with gift card

      £0.79 GBP  or more

     

1.
||: mae'r gwerthwr pysgod ar ei ffordd llwyth o wichiaid ar ei fan mae'r gwerthwr pysgod ar ei ffordd does dim ond gwichiaid ar ei fan mae e'n cyrraedd y tafarn dadlwytho ei nwyddau mynd at y bar mae'r yfwyr yn nesau Yfwyr: Oes gynnoch chi grancod? Gwerthwr pysgod: Na, dim ond gwichiaid Y: Oes gynnoch chi gocos? GP: Na, dim ond gwichiaid Y: Oes gynnoch chi wystrys? GP: Na, dim ond gwichiaid gwichiaid moch, gwichiaid moch :|| Yfwyr: Oes gynnoch chi gregyn bylchog? Gwerthwr pysgod: Na, dim ond gwichiaid Y: Oes gynnoch chi gimwch? GP: Na, dim ond gwichiaid Y: Oes gynnoch chi lyswennog? GP: Na, dim ond gwichiaid gwichiaid moch, gwichiaid moch --- Saesneg: The seafood man is on his way a load of whelks on his van The seafood man is on his way nothing but whelks on his van He reaches the pub Unloads his goods Goes to the bar The drinkers approach Drinkers: Have you got any crabs? Seafood man: No, nothing but whelks D: Have you got any cockles? SM: No, nothing but whelks D: Have you got any oysters? SM: No, nothing but whelks, whelks, whelks D: Have you got any clams? SM: No, nothing but whelks D: Have you got any lobster? SM: No, nothing but whelks D: Have you got any eels? SM: No, nothing but whelks, whelks, whelks

about

Dyma sengl cyntaf Ffos Goch, sy'n ceisio ateb y cwestiwn: "Beth fyddai'n digwydd tasai gwerthwr pysgod yn dod i dafarn heb ddim byd ond gwichiaid moch?"

--

Prosiect cerddorol Stuart Estell yw Ffos Goch. Mae Stuart yn byw yn Redditch, Swydd Gaerwrangon, Lloegr.

Dechreuodd y prosiect fel rhan o benwythnos i ddathlu Datblygu a ddigwyddodd yn Llanbedr-San-Steffan, Mehefin 2022. Paratôdd Stuart set fer o ganeuon Datblygu a sylweddoli’n gyflym iawn nad oedd digon o ddefnydd gyda fe ar gyfer y perfformiad (er gwaetha fersiwn 7 munud o “Dafydd Iwan yn y Glaw”).

Felly dechreuodd ysgrifennu caneuon yn y Gymraeg am y tro cyntaf. Mae dylanwad Dave a Pat yn un enfawr, wrth gwrs, yn ogystal â The Fall (Stuart oedd un o’r rhai a ganodd y gitâr yn ystod y gigs enwog “Granny on Bongos” ym 1998, ac mae e wedi recordio stwff arall gyda Julia Adamson, cyn-aelod y grŵp), a’r holl sin C86. Nod y prosiect yw “ailadrodd heb ailadrodd”. Bwriad y prosiect yw bod yn gydweithredol.

Mae e wedi gwneud amrywiaeth llydan o brosiectau cerddorol dros y blynyddoedd, yn gynnwys canu gwerin, piano clasurol, a deuawd tiwba doom metal ORE.

Dechreuodd Stuart dysgu’r iaith o ddifri yn 2019 wedi bod yn organydd i gapel Gymraeg Loveday St yn Birmingham am 18 blynedd. Mae e nawr yn gweithio fel tiwtor Cymraeg i DdysguCymraeg Sir Benfro. Mae ei deulu yn dod o Geredigion yn wreiddiol.

credits

released October 20, 2022

Cerddoriaeth, geiriau, llais ac offerynnau: Stuart Estell

license

all rights reserved

tags

about

Ffos Goch UK

Ailadrodd heb ailadrodd.

contact / help

Contact Ffos Goch

Streaming and
Download help

Redeem code

Report this album or account

If you like Ffos Goch, you may also like: