1. |
Pwmpenni
03:02
|
|
||
Pwmpenni
Crwn, crwn,
Gwarchodwyr bach y trothwy hwn,
Gwrid y groth a dania'r grwn
A cheidw'r anghenfilod bant;
Wynebau ffug a phennau twn
Yn gwawdio Annwn dros y nant.
Du, du,
Bys ysgafn, gaeafol blu
A ddaw a lladd ein hyfaf lu.
Cynigia'r rhew ei gwtsh o rwyth
I'w heintio er eu dewrdra cu -
Celanedd slwtsh pydredig ffrwyth.
|
||||
2. |
Rhywun yn y stafell
01:51
|
|
||
Mae rhywun yn y stafell
Mewn gwisg hollol wen
Dwi wedi bod yn yfed
Er bod arian mor brin
Mae'r amlinell yn ansicr
Dwi yng nghroen gŵydd i gyd
Mae rhywun yn y stafell
Ac rwy'n teimlo'n anghlyd
Mae presenoldeb ar y grisie
Mae presenoldeb yn y gegin
Mae rhywun yn y stafell
Mewn gwisg hollol wen
|
||||
3. |
Pen mewn bag
03:08
|
|
||
Trefnwyd ymgyrch.
Gwnaethpwyd penderfyniad.
Dyna sicrwydd.
Oer ydy hi.
Sicrwydd arall.
Tywyll ydy hi.
Sicrwydd arall.
Pam mae hi mor dywyll? Nid wyf yn gwybod.
Dyna ansicrwydd.
Trefnwyd ymgyrch.
Pam mae fy ngwddf yn wlyb? Nid wyf yn gwybod.
Ansicrwydd arall.
Meddyliaf yn araf yn yr oerni. Yn y tywyllwch.
Gwnaethpwyd penderfyniad.
Y môr. Mae'r môr yn wastad yn ansicr.
Er nad ydy e mor ddwfn.
Oer ydy hi.
Llong fach. Casgliad o longau bach.
Pam yr oeddent mor fach?
Pam mae hi mor dywyll?
I ble'm dygir?
Ni allaf teimlo fy nghoesau.
Pam na allaf teimlo fy nghoesau?
Ansicrwydd arall
Arafia fy meddyliau.
Ffurfwyd pont.
Yr ydwyf yn arafu.
Pont yr ydwyf. Pont yr oeddwn.
Sicrwydd arall.
Pam mae hi mor dywyll? Pam?
|
Streaming and Download help
If you like Ffos Goch, you may also like:
Bandcamp Daily your guide to the world of Bandcamp