Includes unlimited streaming via the free Bandcamp app, plus high-quality download in MP3, FLAC and more.
Purchasable with gift card
£0.79GBP or more
about
Angladd y Frenhines
Ffos Goch
8fed o Fedi 2023 / 8th of September 2023
Saesneg isod / English below
Dyma blas ar albwm llawn cyntaf Ffos Goch, Pentre Ifan yn y Glaw, a fydd allan yng ngwanwyn 2024.
Cydweithrediad yw'r trac hwn, rhyngdda i a'm ffrind y bardd John Matthews.
8fed o Fedi 2022: gwyliais y newyddion am farwolaeth y Frenhines Elisabeth yn datblygu mewn gwesty yn Hwlffordd tra o'n i yno yn mynychu hyfforddiant ar gyfer fy swydd newydd fel tiwtor Cymraeg. Es i i'r dafarn y noson honno a gweld yr enwog Huw Edwards yn chwarae ei ran yn sioe alarus y BBC. Daeth rhyw foi lleol i mewn a chwyno'n ddigri tu hwnt, uchel ei gloch, "They've cancelled Pointless for this!"
Parhaodd y sioe alarus am byth, wrth gwrs -- dyna sut oedd hi'n teimlo, o leia. Fy nghanlyniad creadigol cyntaf oedd y gerdd a ddatblygodd yn y gân "Olion yr Hen Hualau" ar ôl i fi ymweld â Chapel Celyn er mwyn osgoi'r holl ffwdan am yr Angladd mewn fordd addas.
Yr ail ganlyniad yw'r darn hwn. Cododd yr angladd teimladau tra gwahanol ar John - medd ef:
"Wrth i fi edrych ar yr orymdaith angladdol oedd yn drewi o fraint gyda'r cerdded undonog, seremoníol, halodd e i fi feddwl am y glowyr (a'r chwarelwyr) oedd rhaid brwydro eu ffordd ar hyd y llwybrau peryglus cyn dechrau ar eu gwaith annioddefol yn y pyllau glo. Roedd yr 'igam-ogam' dolurus ar y diwedd yn cyfleu gwrthgyferbyniad i'r 'o gam i gam' trefnus."
Stuart Estell, Swydd Gaerwrangon, 12.8.23
SAESNEG / ENGLISH
This is a foretaste of Ffos Goch's first full album, Pentre Ifan yn y Glaw, which will be out in spring 2024.
This track is a collaboration between me and my friend the poet John Matthews.
8th September 2022: I watched the news about the death of Queen Elizabeth unfold in a hotel in Haverfordwest while I was there attending training for my new job as a Welsh tutor. I went to the pub that night and saw the famous Huw Edwards playing his part in the BBC's show of grief. A local came in and complained loudly and hilariously, "They've cancelled Pointless for this!"
The show of grief went on forever, of course -- at least that's how it felt. My first creative result was the poem that developed into the song "Olion yr Hen Hualau" after I visited Capel Celyn as an appropriate way of avoiding all the fuss about the funeral.
The second result is this piece. The funeral raised different feelings for John - he says:
"As I looked at the funeral procession which reeked of privilege with its monotonous procession, it made me think of the miners (and quarrymen) who had to fight their way along the dangerous paths before starting their unbearable work in the coal mines. The painful 'igam-ogam' at the end contrasts with the orderly 'o gam i gam'."
Stuart Estell, Worcestershire, 12.8.23
lyrics
O gam i gam, o gam i gam,
Rhaid i bob un chwarae ei ran.
O gam i gam, o gam i gam.
Rhaid i bob un chwarae ei ran.
Ynghlwm â’r drwm
A’r coesau’n drwm.
Ynghlwm â’r drwm
A’r coesau’n drwm.
O gam i gam, o gam i gam,
Rhaid i bob un chwarae ei ran.
O gam i gam, o gam i gam
Rhaid i bob un chwarae ei ran.
Ymhell o’r sioe a’r pasiant
Gyda’i ysblander mwythol, sâl,
Gwêl y colier blin, diffuant
Yn baglu heb ‘r un cymorth ar gael.
Ei gerddediad trafferthus yn amlwg
A’i ystum yn dyst i’w loes.
Yn y tarth fe fydd o’r golwg
Wrth frwydro i gario’i groes.
Gorymdaith cyhoeddus y frenhiniaeth
Dim ond sioe i gynhyrfu’r haid,
Ond taith y glowr diobaith
Yn artaith ddolurus, ddi-baid.
Igam-ogam, igam-ogam
Rhaid i ni gyd chwarae ein ran.
Igam-ogam, igam-ogam
Rhaid i ni gyd chwarae ein ran.
credits
released September 8, 2023
Geiriau: John Matthews
Cerddoriaeth, llais ac offerynnau: Stuart Estell
On “Spirit Breeze,” Dylan Gilbert starts from folk roots, but gradually adorns his songs with rich textural elements. Bandcamp New & Notable Jun 19, 2022
Perhapsy’s latest—which is also available on translucent cyan vinyl—draws from shoegaze & dreampop, and tells a wrenching true story. Bandcamp New & Notable Dec 1, 2018
A complex, texturally rich blend of psychedelia and dream pop from an upstart Hamburg band who write songs in Turkish, German, and English. Bandcamp New & Notable Jun 21, 2023