Includes unlimited streaming via the free Bandcamp app, plus high-quality download in MP3, FLAC and more.
Purchasable with gift card
£0.79GBP or more
about
Dyma ail sengl Ffos Goch.
Disgrifiodd y diweddar Mark E Smith geiriau pop fel hyn: "Es i lan y bryn / Des i lawr y bryn / Dw i'n dy garu di" a dim lot mwy.
Felly... dyma gân sy'n mynd i lan ac i lawr bryn. Yn y tywyllwch, falle.
--
Prosiect cerddorol Stuart Estell yw Ffos Goch. Mae Stuart yn byw yn Redditch, Swydd Gaerwrangon, Lloegr.
Dechreuodd y prosiect fel rhan o benwythnos i ddathlu Datblygu a ddigwyddodd yn Llanbedr-San-Steffan, Mehefin 2022. Paratôdd Stuart set fer o ganeuon Datblygu a sylweddoli’n gyflym iawn nad oedd digon o ddefnydd gyda fe ar gyfer y perfformiad (er gwaetha fersiwn 7 munud o “Dafydd Iwan yn y Glaw”).
Felly dechreuodd ysgrifennu caneuon yn y Gymraeg am y tro cyntaf. Mae dylanwad Dave a Pat yn un enfawr, wrth gwrs, yn ogystal â The Fall (Stuart oedd un o’r rhai a ganodd y gitâr yn ystod y gigs enwog “Granny on Bongos” ym 1998, ac mae e wedi recordio stwff arall gyda Julia Adamson, cyn-aelod y grŵp), a’r holl sin C86. Nod y prosiect yw “ailadrodd heb ailadrodd”. Bwriad y prosiect yw bod yn gydweithredol.
Mae e wedi gwneud amrywiaeth llydan o brosiectau cerddorol dros y blynyddoedd, yn gynnwys canu gwerin, piano clasurol, a deuawd tiwba doom metal ORE.
Dechreuodd Stuart dysgu’r iaith o ddifri yn 2019 wedi bod yn organydd i gapel Gymraeg Loveday St yn Birmingham am 18 blynedd. Mae e nawr yn gweithio fel tiwtor Cymraeg i DdysguCymraeg Sir Benfro. Mae ei deulu yn dod o Geredigion yn wreiddiol.
credits
credits
released November 13, 2022
Cerddoriaeth, geiriau, llais ac offerynnau: Stuart Estell
On “Spirit Breeze,” Dylan Gilbert starts from folk roots, but gradually adorns his songs with rich textural elements. Bandcamp New & Notable Jun 19, 2022
Perhapsy’s latest—which is also available on translucent cyan vinyl—draws from shoegaze & dreampop, and tells a wrenching true story. Bandcamp New & Notable Dec 1, 2018
A complex, texturally rich blend of psychedelia and dream pop from an upstart Hamburg band who write songs in Turkish, German, and English. Bandcamp New & Notable Jun 21, 2023